Amdanaf

Astroffisegydd Cymraeg 🔭🏴
Croeso! Myfyriwr PhD Astroffiseg ydw i ym Mhrifysgol Vanderbilt yn Nashville, Tennessee (USA). Rydw i’n astudio cefndiroedd tonnau disgyrchiol gydag amlderau nanoherts. Cynorthwyydd Ymchwil ydw i i NANOGrav a’r IPTA, a rydw i’n rhedeg ein piblinellau nodweddu ac yn ddatblygu dulliau newydd i ddadansoddi ein ddata.
Tyllau duon gorenfawr, cosmoleg, nodweddu spectrol, ac ystadegau Bayesaidd yw rai o fy diddordebau yn fy ngwaith ymchwil. Datblygais ceffyl
- un o’r peiriannau sy’n rhedeg y feddalwedd PTArcade
i chwilio am ffiseg newydd yn ddata arae amseriad pwlser.
Rydw i’n ymroddedig i gyfathrebiad gwyddonol ac i eiriol am fy ngymuned. Cyn-ysgfrifenwr a chadeirydd cyfredol gwefan Astrobites ydw i, ac yn ddiweddar dechreuais cyfrannu at tudalennau Wikipedia yn y Gymraeg a’r saesneg. Tu allan i gwaith, rydw i’n ymarfer am driathlon, dawnsio swing, darllen, ac yn gwarndo i gerddoriaeth.
Rydw i’n dod o Gymru a Chymraeg yw fy nhiaith cyntaf.
Prosiectau
Science Communication and Advocacy
Dysgwch am fy ngwaith i gyfathrebu gwyddoniaeth i’r cyhoedd ac i eiriol am wyddoniaeth a’r cymuned gwyddonol.